Senior Marketing and Communications Officer (Welsh speaking)

New Yesterday

Enw'r Cyflogwr: Datblygiadau Egni Gwledig

Cyflog: £32,000 - £35,000 llawn amser (32 awr y wythnos)

Dyddiad cyfweliad: 13/1 1/2025

Enw Cyswllt: Rhian Cahill, Cydlynydd GwyrddNi

E-bost: rhian@deg.cymru

Gwefan: https://www.gwyrddni.cymru

Prif Leoliad: Caernarfon, gyda theithio rheolaidd i'n swyddfeydd eraill yng Ngwynedd. Mae gennym ddull hybrid o weithio, bydd patrwm gwaith a lleoliad yn cael ei gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.

Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu dros yr hinsawdd sy'n grymuso cymunedau i fynd i'r afael â newid hinsawdd gyda'i gilydd trwy ddysgu a gweithredu lleol.

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a strategol sy'n angerddol am y gymuned a'r amgylchedd. Byddwch yn arwain ac yn cyflwyno cynllun cyfathrebu beiddgar, gan weithio gyda phartneriaid i ehangu ein heffaith. Gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli, byddwch yn ysbrydoli pobl i ymgysylltu, meithrin perthnasoedd cryf, a thyfu'r mudiad. Bydd eich gwaith hefyd yn creu cyfleoedd cynhwysol i gymunedau gysylltu, cymryd rhan, a gyrru newid ystyrlon gyda'i gilydd.

Y Fenter a’r Swydd

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar yr hinsawdd sy'n grymuso cymunedau i ddod ynghyd i fynd i'r afael â newid hinsawdd trwy drafod, dysgu a gweithredu lleol mewn pum ardal yng Ngwynedd. ‘Rydym yn gweithredu dull Datblygu Cymunedol Seiliedig ar Asedau (Asset Based Community Development). Wedi ei arianu gan Cronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol hyd at 2028.

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i ysbrydoli pobl o fewn cymunedau i gysylltu â'n gweledigaeth gyda’n gilydd, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a phwrpas cymdeithasol. Byddwch yn adeiladu a meithrin perthnasoedd cryf â sefydliadau allweddol, yn lleol ac yn genedlaethol, i ehangu ein cyrhaeddiad a'n heffaith.

Byddwch yn defnyddio dull cynllunio ar ôl llaw gan gynhyrchu ymgyrchoedd cyfathrebu ac ymgysylltu integredig llwyddiannus gyda Phartneriaeth Ogwen, DEG, Yr Orsaf, Cwmni Bro, Plas Glyn-y-Weddw, Partneriaeth Dyffryn Peris ac eraill.

Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu creadigol a threfnus gyda sgiliau gweithredu yn strategol sy'n yn gwerthfawrogi cymuned a'r amgylchedd i arwain, datblygu a chyflwyno cynllun cyfathrebu uchelgeisiol ac ystyrlon.

Byddwch yn gyrru gweledigaeth y sefydliad gyda'r tîm a'u cymunedau. Byddwch yn cynnal ‘llais GwyrddNi’ ac yn dilyn canllawiau ‘brand’ parod. Bydd eich profiad yn eich helpu i nodi cyfleoedd i wneud y mwyaf o ymgysylltiad allanol gan ddefnyddio eich cysylltiadau cyhoeddus a'ch cysylltiadau gyda'r cyfryngau. Byddwch yn defnyddio cymysgedd eang o sianeli cyfathrebu, gan gynnwys ffilm, y wasg, ein gwefan, cylchlythyrau a chyfryngau cymdeithasol, rhwydwaith posteru, papurau bro lleol a chyfryngau cenednational. Byddwch hefyd yn gallu cynhal a recordio cyfweliadau difyr.

Mae hon yn rôl allweddol i dyfu Mudiad GwyrddNi. Ar y cyd â’r tim, byddwch yn ysbrydoli amrywiaeth eang o bobl i gymryd rhan, yn dathlu’r gwaith sy’n mynd rhagddo ac yn uchafu’r effaith o Greu Cymunedau Gwyrdd.

Pecyn Swydd, swydd-ddisgrifiad a manylion person: bit.ly/swyddmarchnatagwyrddni

Gwneud cais

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â Rhian Cahill drwy e-bost yn y lle cyntaf, byddai hi'n hapus i drefnu galwad ffôn os hoffech ch: rhian@deg.cymru / 07529 901029

Gwnewch gais

Gwnewch gais trwy anfon CV i Rhian Cahill yn amlygu'r holl brofiad perthnasol a llythyr eglurhaol yn egluro pam rydych chi eisiau bod yn rhan o GwyrddNi a beth fyddwch chi'n ei ychwanegu at y mudiad.

Dyddiad cau 28 Hydref 2025

Er gwybodaeth, os y byddwn yn eich gwadd i gyfweliad, dyma’r dyddiad 13/11/2025.

#J-18808-Ljbffr
Location:
Caernarfon, Wales, United Kingdom
Salary:
£80,000 - £100,000
Job Type:
FullTime
Category:
Finance

We found some similar jobs based on your search